Planna Fwyd!
Grŵp gweithredu cymunedol yw Planna Fwyd! a ffurfiwyd mewn ymateb i'r pandemig a'i effaith ar ein cyflenwad bwyd.
Rydym yn gweithio i gynyddu faint o fwyd sy'n cael ei gynhyrchu yn Biosffer Dyfi, fel y gall pawb gael mynediad at gynnyrch o ansawdd uchel, wedi'i dyfu'n lleol, beth bynnag sydd gan y dyfodol i’w gynnig.
Mae’n cynnwys ffermwyr uchelgeisiol a phresennol, tyfwyr newydd, a mynychwyr ymroddedig Zoom, mae Planna Fwyd! yn sefydliad sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr yn llwyr. Mae'r aelodau'n rhannu eu hamser, eu sgiliau, eu tir a'u hoffer i greu gweithrediad cymunedol cryf sy'n cynhyrchu bwyd lleol.
Cymerwch ran!
Mae yna lwyth o ffyrdd i helpu, p'un a’i ydych chi am gael eich dwylo'n fudr neu'n gwirfoddoli o gysur eich swyddfa gartref.
Beth am ymuno â ni?